Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
18 Gorffennaf 2018
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5001
------
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.25
Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 15.11
Gofynwyd y ddau gwestiwn.
Dechreuodd yr eitem am 15.18
[Atebwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig]
Lee Waters (Llanelli) Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o benderfyniad yr Archwilydd Cyffredinol i gymhwyso cyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer y drydedd flwyddyn yn olynol?
[Atebwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg]
Lynne Neagle (Torfaen) A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun Grant Datblygu Disgyblion – Mynediad?
Dechreuodd yr eitem am 15.38
Gwnaeth Andrew RT Davies ddatganiad yn canmol y cyfraniad y mae meddygon Indiaidd yn ei wneud i'r GIG yng Nghymru
Gwnaeth Suzy Davies ddatganiad am ymgyrch Keep me posted (sy’n sicrhau bod busnesau a chynghorau’n parhau i anfon biliau papur at gwsmeriaid os mai dyna’u dymuniad)
Gwnaeth Simon Thomas ddatganiad am ddathlu 140 mlynedd ers sefydlu Amgueddfa Dinbych-y-pysgod (amgueddfa annibynnol hynaf Cymru)
Gwnaeth Jayne Bryant ddatganiad am ddadorchuddio plac yn Ysbyty Sant Gwynllyw yn gynharach y mis hwn i goffáu rhan yr ysbyty yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Dechreuodd yr eitem am 15.44
Dechreuodd yr eitem am 16.32
Dechreuodd yr eitem am 17.07
NDM6773 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 02-18 a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 9 Gorffennaf 2018 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9
2. Yn cymeradwyo'r argymhelliad yn yr adroddiad bod achos o dorri amodau wedi ei ganfod a phenderfynu y dylai'r Aelod, o dan Reol Sefydlog 22.10 (iii) gael ei geryddu a'i wahardd o drafodion y Cynulliad am gyfnod o 14 diwrnod calendr, gan ddechrau ar ddiwrnod cyntaf tymor y Cynulliad ar ôl toriad yr haf (17 Medi 2018).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 17.10
NDM6774 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â pharagraff 8(8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006:
Yn nodi'r Adroddiad Cydymffurfio Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 11 Gorffennaf 2018
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 17.36
NDM6771 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 'Gwneud i’r economi weithio i’r rheini sydd ag incwm isel', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Mai 2018.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Gorffennaf 2018.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ni chafwyd Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 18.19
NDM6772 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Gweithredu terfynau cyflymder diofyn o 20 mya mewn ardaloedd preswyl ac adeiledig yng Nghymru.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.42
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 18 Medi 2018